Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/123

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Perrot, o New market, yn sîr Fflint, gael ei ordeinio yn Knutsford, yn sir Gaerlleon, yn 1706. Yr oedd dau eraill yn cael eu hordeinio gydag ef. Mr. Mathew Henry oedd yn derbyn eu cyffes ffydd. Yr oedd o gylch 18 o weinidogion yn bresennol ar yr achos. Yr wyf yn meddwl mai'r gwr hwnnw fu yn Nghaerfyrddin."[1] Mae'r ysgol

Coleg y Fenni.

yn cael ei chadw yno hyd yn hyn. O achos rhyw anghydfod, gosododd yr Independiaid brif ysgol i fyny yn y Fenni, am nad oeddent yn cytuno â phob peth yn ysgol Caerfyrddin. Yr athraw cyntaf yn y Fenni oedd Mr. D. Jardine, gwr o Ddinbych, o gylch y flwyddyn 1754. Wedi ei farw ef dewiswyd ei gynnorthwywr, Mr. Davies, i fod yn athraw yr ysgol. Mae efe yno yn awr. Aeth amryw o weinidogion duwiol, doniol, a defnyddiol, allan o'r ysgol hon, rhai i Gymru, ac eraill i Loegr. Mae ysgol Caerfyrddin yn myned, gan mwyaf, dan yr enw Presbyteriaid; a'r un yn y Fenni dan yr enw Independiaid.

Trefn Addysg y Bedyddwyr.

P. Pa fodd y mae'r Bedyddwyr, yn fwy neillduol, yn gwneyd am ddysg i'w gweinidogion?

T. Y drefn fwyaf cyffredinol yn eu plith yng Nghymru yw hyn: pan fyddo argoel gobeithiol fod doniau gweinidogaethol yn rhai o'u haelodau ieuainc, neu rai mwy oedrannus, y maent yn annog y cyfryw i arfer eu dawn yn yr eglwys. Wedi bod fel hyn ar brofiad ryw amser, os byddir yn barnu eu bod yn debyg i fod yn ddefnyddiol, y

  1. Mr. M. Henry's Life," P 193.