maent yn rhoi galwad iddynt i bregethu. rhai hyn yn digwydd bod o amryw amgylchiadau; rhai o honynt wedi cael dysg o'r blaen mewn ysgolion cyffredin y wlad, heb ddim golwg tuag at y weinidogaeth; eraill heb gael ond ychydig o ddysg. Barn gyffredin y Bedyddwyr yng Nghymru yw mai rhodd Duw yn unig yw gras a dawn gweinidogaethol: ac mai fel yr oedd Duw, yn amser yr apostolion, yn galw rhai dysgedig a rhai heb lawer o ddysg i waith y weinidogaeth, felly mae'n gweled y dda gwneyd hyd heddyw. Bydd rhai o honynt yn myned i'r ysgol, er mwyn dysgu ychwaneg, wedi dechreu pregethu; ac eraill dan amgylchiadau nad allant fyned; a rhai nad ydynt yn dewis myned. Bu yng Nghymru lawer o weinidogion enwog, heb fod erioed mewn prif ysgol, wedi dechreu pregethu, megis Lewis Thomas o'r Mwr, gerllaw Abertawe; Mr. Morgan Jones, a'i fab, Mr. Griffith Jones, Mr. Samuel John, Mr. Morgan Griffiths, Mr. John Jenkins, Mr. Thomas Mathias, Mr. Enoch Francis, Mr. Henry Gregory, Mr. David Thomas o Gilfowyr, &c. O honynt yr oedd rhai yn ddysgedig, a rhai heb lawer o ddysg mewn ysgolion.
Athrofa Bryste.
Yn 1720 darfu i Mr. Bernard Foskett, bugail Eglwys y Bedyddwyr yn Broadmead, Brysto, gymeryd gwr ieuane gobeithiol o Gymru, i'w hyfforddi yn yr hyn oedd fuddiol tuag at y weinidogaeth. Enw'r gwr ieuanc oedd Thomas Rogers, o Bontypwl, yn sîr Fonwy; ac ar fyrr wedi hynny daeth gwr ieuanc arall ato, i'r un diben, sef Mr. John Phillips, o Rydwilim. Parhaodd y gwr parchedig hwnnw tra fu byw i