hyfforddi gwyr ieuanc, o Gymru a Lloegr, mewn dysgeidiaeth fuddiol i'r weinidogaeth. Bu Mr. Hugh Evans, M. A., yn cynorthwyo Mr. Foskett yn y gwaith da hwn lawer o flynyddau. Ac y mae ef a'i fab, Mr. Caleb Evans, M.A., yn parhau yn y llafurus waith hyd heddyw. Mae amryw o Gymru wedi bod yno, a rhai o honynt wedi dychwelyd i'w gwlad eu hunain, ac eraill wedi myned at eglwysi amddifaid yn Lloegr, neu i'r Iwerddon.
Diolch y Plentyn.
P. Mawr ddiolch i chwi am yr hanes oll. Byddai dda gennyf pe gallech roddi ychydig o hanes eglwysi y Bedyddwyr yn neillduol.
T. Bodlon iawn wyf fi; ond mae gormod o waith ar hyn o bryd. Mi amcanaf roi hanes neillduol pob eglwys o honynt ar ei phen ei hun, o'r dechreuad hyd yr amser hyn, a rhoddi'r cyfan yn y drefn oreu ag allwyf. Yna cei di ac eraill ei weled, ac odfa i'w ystyried. Gweled Duw yn dda wneyd hyn o ymddiddan byrr yn fuddiol i lawer iawn o'n cydwladwyr, fel y rhyfeddont fawr ddaioni Duw i'n cenedl ni dros gynnifer o oesoedd, er amser yr Apostolion; ac yn enwedig yn yr oes hon, uwch law'r holl amseroedd o'r blaen.