Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

II. CYFNOD Y RHUFEINIAID.
1—450.

P. A oes son am y Cymry yn yr Ysgrythyr?

T. Mae'r dysgedigion yn barnu fod y Cymry wedi cael eu henw felly oddiwrth fab hynaf Japheth, yr hwn oedd fab hynaf Noë.

P. Atolwg, beth oedd enw y mab hwnnw?

T. Gomer, fel y gweli yn Gen. x. 2.

Pwy sy'n dweyd Gomer.

P. Pwy ydyw rhai o'r dysgedigion sydd yn barnu felly?

T. Mi a enwaf dri o lawer, sef Dr. Gill, Mr Arthur Bedford, a Mr. Theophilus Evans. Y maent hwy, yn eu llyfrau isod,[1] yn enwi amryw yn ychwaneg. Mae'r awdwyr hyn yn dangos pa fodd y daethant o wlad i'r llall ac o enw i gilydd, nes dyfod o dŵr Babel i'r ynys hon, ac yma cadw enw Gomer yn fwy naturiol y dydd heddyw nag un rhan arall o'i hiliogaeth dan haul.

Un or "ynysoedd pell."

P. A oes son yn y Gair am ynys Brydain?

T. Mae yno sôn yn fynych am yr ynysoedd, megis yn Psal. lxxii. 10 a'r xcvii. 1. Ac wrth ystyried cynnifer o dduwiolion a fu yma, ni welaf fì achos i ameu nad oedd yr ynys hon ymhlith y rhai mae'r addewidion yn perthyn iddynt yn Esa. xlii. 4. a'r li. 5. Ac yr wyf yn neillduol hyderus, mai Cymraeg yw un o'r iaithoedd a ddeuent i

weled gogoniant yr Arglwydd; mai Cymry yw

  1. Dr. Gill on Gen. x. 2, &c. Bedford's " Scripture Chronloogy," p. 194, &c. Drych y Prif Oesoedd." tu. dal. 7.