III. CYFNOD Y SAESON
450—1520
Saeson, clefydau, &c.
P. Pa fodd y bu ar y Cymry wedi hyn?
T. Er fod gweinidogion enwog yn eu plith yn yr amseroedd hyn, sef o'r flwyddyn 400 hyd 600, eto dirywio mewn crefydd yr oedd llawer o honynt, ac amryw fath o farnedigaethau oedd yn dyfod arnynt. Daeth y Saeson i'r wlad, bu clefydau yn eu plith, ac amryw bethau.
Gildas
P. Beth oedd enwau gweinidogion mwyaf hynod y Cymry yn yr amseroedd hynny?
T. Yr oedd Gildas yn enwog iawn, ac yn fawr ei sel yn erbyn llygredigaeth yr oes. Mae rhan o'i lyfrau ef eto ar glawr yn Lladin. Dywedir mai dyna'r llyfrau hynaf o waith Cymro ag sydd yn y byd 'nawr. Ysgrifennodd ef ychydig wedi'r flwyddyn 500.
P. Pa weinidogion hefyd oedd yn yr amser hynny? Dyfrig, Dewi, Dunawd, &c.
T. Gwr enwog iawn oedd Dyfrig, yr hwn a elwir Daubricius ymhlith y Rhufeiniaid ac eraill. Dewi hefyd, a Dynawt, Teilo Fawr, Padarn, Pawlin, Daniel a llawer eraill. Yn yr amser hyn yr oedd Taliesyn ben beirdd hefyd yn byw.
Awstyn Fynach
P. Pa fodd yr oedd y Cymry ynghylch bedydd yn yr amser hyn?
T. Yr oedd bedydd plant wedi dyfod i'r eglwys yn hir cyn hyn, ond dywedir fod y