Tudalen:Gwaith Joshua Thomas.pdf/31

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd Giraldus. Yr ydoedd ef yn ddysgedig, wedi gweled a chlywed llawer, fel y dywed Dr. Godwin,[1] ac y dengys ei lyfrau. Bu ef farw, medd Dr. Godwin, yn y flwyddyn 1198. Am grefydd y Brutaniaid wedi derbyn Pabyddiaeth. gweler hanes byr yn y llyfrau Cymraeg canlynol, "Drych y Prif Oesoedd," tu dal. 272, &c, "Hanes y Byd a'r Amseroedd," o waith Mr.Simon Thomas, a enwyd yn barod, yr ail argraffiad, tu dal. 149, &c. " Hanes y Ffydd hefyd, heb law hanesion eraill.

Dianwadalwch y Cymry.

Nid pobl benysgafn, droedig, hawdd eu cylch arwain at bob awel dysgeidiaeth yw'r Cymry: eithr yn gyffredin, dynion dyfnion gafaelus ydynt, anhawdd ganddynt adael yn ebrwydd yr hyn a dderbyniont yn gyffredin i'w plith, pa un ai cain neu gymwys a fyddo. Felly megis y cadwasant athrawiaeth yr efengyl mor lew cyhyd, wedi llygru lleoedd eraill: o'r tu arall, wedi derbyn Pabyddiaeth, anhawdd iawn oedd ganddynt ymadael â hi.

Pobl heb Ysgrythyr.

P. A oedd yr Ysgrythyr ganddynt pryd hynny?

T. Och ! och ! nag oedd. Un o gaeth gyfreithiau'r Papistiaid oedd, na byddai'r Ysgrythyr gan neb ond yn y iaith Ladin. Felly'r oedd lluoedd o'r Cymry, druain heb wybod gair ar lyfr, nag un Beibl Cymraeg yn y byd, mae'n debyg. Yroedd ambell un duwiol a dysgedig yn eu plith

  1. Catalogue, p. 512.