un o honynt dros fedydd plant, y rhai a elwir yn gyffredin, Presbyteriaid; a'r llall dros fedydd y crediniol; byddai Bedyddwyr plant yn galw y rhai'n Ailfedyddwyr, ond yr oeddent yn galw eu hunain Bedyddwyr.
Tafodau Dadleugar.
P. Pa fodd yr oedd y tair plaid hyn yn ymddwyn tuag at eu gilydd wedi cael rhydd-did cydwybod, i addoli Duw yn ol eu goleuni?
T. Nid gwych iawn, o ran tymherau eu ysbrydoedd, yn enwedig rhai o honynt; ond yr oedd rhai o bob barn yn well nag ereill. Ni bu dim erledigaethau mawr, ond byddai gormod o erledigaeth tafod, a dadlu.
Hereticiaid colledig.
P. Beth oedd y dadlau mwyaf rhyngddynt?
T. Ni byddai rhai o Eglwys Loegr yn cyfrif y sawl ni ddeuent i'r llan ond ychydig, neu ddim, well na. hereticiaid colledig; a rhai o'r Ymneillduwyr, o'r tu arall edrych yn ddigon cul arnynt hwythau. Ond goreu yw claddu'r pethau hyn mewn distawrwydd. Anwybodaeth a llygredigaeth oedd llawer o hono, o'r ddeutu. Bu dadlu hefyd am fedydd, a bu dadlu hefyd am athrawiaethau. Ymhlith yr Ymneillduwyr yr oedd y ddau ddadl diweddaf, gan mwyaf. Yr oedd Eglwys Loegr yn gadael y pethau hyn yn llonydd yn y cyffredin.
Dwy Ganrif.
P. Yr oedd y Cymry erbyn diwedd yr oes ddiweddaf wedi diwygio llawer, a rhan fawr o honynt yn gallu darllen, a chanddynt lawer o