hunain; a rhoddi o honynt i'w cydwladwyr gyf ieithiad da a ffyddlon, a'i argraffu hefyd. Wedi hynny, i'r Independiaid a'r Bedyddwyr fod yn ddefnyddiol iawn i bregethu'r efengyl yn Gymraeg, ac i Dduw eu harddel yn neillduol er troedigaeth eneidiau; a hwy, mewn ystyriaeth, a ddechreuodd agoryd llygaid y Cymry i ystyried eu cyflwr ysbrydol; ond wedi hyn bu'r Presbyteriaid yn dra defnyddiol i ddwyn ein cydwladwyr i ddarllen Gair Duw. Independiaid a Bedyddwyr oedd yr Ymneillduwyr cyntaf o Gymru, ond yr wyf yn cyfri mai Presbyteriaid y gelwid Mr. Stephen Hughes, Mr. Thomas Gouge a Mr. David Jones.
Yr Ailfedyddwyr.
P. Mae llawer yn tybied mai dynion diweddar iawn yw y rhai a elwir Ailfedyddwyr.
T. Nid yw hynny ddim ond eisieu gwybod gwell.
P. Paham y mae un farn yn erlid y llall gymaint?
T. Eisiau mwy o wybodaeth o Iesu Grist, bywyd crefydd, a'u calonau eu hunain. Hwy a ddylent barchu eu gilydd, gweddio dros eu gilydd; ac ymdrechu bod yn ddefnyddiol yn eu dydd, fel y bu eu tadau gynt, dyna'r ffordd iddynt gytuno a harddu'r efengyl.
Yr Eglwys wedi Goddefiad.
P. Pa fodd y bu yn yr Eglwys wedi dyfod rhydd-did cydwybod?
T. Yr oedd proffeswyr crefydd yng Nghymru yn gyffredin yn ddwy ran, sef Eglwys Lloegr a'r Ymneillduwyr; a'r olaf yn ddwy drachefn, sef