Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/101

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

BERWI I LAWR

ROEDD march wedi chwyddo yn Nhyddyn y Rhiw,
A phawb wedi meddwl na fyddai ddim byw;
Gan boenau dirdynol ei anadl oedd gaeth,
A myned yr ydoedd bob eiliad yn waeth;
Caed doctor i'w weled, a dwedai y gŵr,
"Rhowch ddyrnaid o ddeiliach mewn galwyn o ddŵr,
A dodwch y cyfan mewn crochan am awr,
A thân da o dano, a berwch o i lawr."

Mae ambell ysgogyn i'w weled ar dro,—
Yn debyg i'r ceffyl, yn chwyddo o'i go',
Mae'i olwg mor wyntog nes haeddu cael sen,
Mae gwynt lond ei galon, a gwynt lond ei ben,
Mae gwynt yn ei wyneb, a gwynt yn ei 'sgwrs,
A gwynt, meddai pobol, yn llenwi ei bwrs;
Wel, rhowch yr ysgogyn chwyddedig am awr
Yng nghrochan gwaradwydd i'w ferwi fo i lawr.

Mae ambell enethig i'w gweld yn y wlad
Yn gwadu'n ddigwilydd ei thylwyth a'i thad, —
" I cannot talk Welsh," meddai'r feinir mor fain,
Will somebody shew me the house of my nain? "
Mae starch yn ei gwegil, a starch yn ei hiaith,
Mae starch yn ei chalon, a starch yn ei gwaith,
I wella yr eneth o stiffdra mor fawr,—
Wel rhowch hi mewn boiler i'w berwi hi lawr.