Pan fyddo yr araeth yn mynd yn rhy hir,
Neu'r gân yn mynd weithiau dros ormod o dir,
Pan ddelo rhyw wynt, neu orfalchder ar dro,
A dyn yn dueddol i fyned o'i go,
Wel berwch yr araeth, a berwch y gân,
A berwch y balchder uwch digon o dân,
Y doctor rhagoraf i fach ac i fawr
A flinir gan wynt, yw eu berwi nhw i lawr.
Y TEITHIWR AR Y MYNYDD
YMGAUAI'R niwl, doi'r curwlaw i lawr,
A'r teithiwr ar y mynydd mawr
Ymhell o'i gartref cu;
'Roedd t'wyllwch dudew hanner nos
Yn cuddio pob rhyw seren dlos—
Y nef a'r llawr yn ddu;
Y t'wyllwch Aifftaidd o bob tu
Ddanghosai wyneb angau du
Yn syllu ar bob llaw;
Ond ha! Fe welai yn y fan
Ryw oleu bychan, llwydaidd, gwan,
Yn wincio oddidraw;
Ysgafnai'r galon gyda'i droed,
Cyfeiriodd yno yn ddioed,
Fe chwarddai'r goleu drwy y dellt
O'r ffenest dan y bondo gwellt;
Agorodd ddrws y bugail mwyn,
Cadd yno ddweyd ei gais a'i gŵyn,
Cadd groesaw cu, a thệ a thân,
A gwledda ar yr aelwyd lân.