Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

EISTEDDFOD ENLLI

Ar ddyfnderau'r môr berwedig,
O dan wlith y nef garedig,
Gyda gwŷr y gân;
Dyma Gethin, Ioan Arfon,
Alfardd, Bodran, ac Alafon,
Dyma Glwydfardd,—dyma ddigon
I roi'r môr ar dân.
Os oes rhai 'Steddfodau
Heb ddim " mynd " trwy'r cyrddau,
Fe fydd hon, ar frig y donn,
A phawb yn mynd ei orau;
Dyma 'Steddfod lawn o bleser,
'Steddfod sydd yn mynd wrth ager,
Yn y dŵr hyd at ei hanner,
Eto'n sych i gyd.

Fflamied doniau pur yr awen
O galonnau beirddion llawen,
Deued pawb ag englyn cymen,
Neu ryw bennill mwyn;
Canwn wrth fynd tuag Enlli,
Nes bo adsain byw ein cerddi
Yng nghlogwyni yr Eryri
Megis dwyfol swyn;
Tanied ein teimladau
At hen wlad ein tadau,
Moli'n hiaith a fyddo'n gwaith
Tra anadl yn ein ffroenau;
Mewn gwladgarwch gwnawn ragori,
Na foed hanes byth yn tewi
Am y beirdd yn 'Steddfod Enlli,
Tra y pery'r byd.