Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/104

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

GWLAD FY NHADAU

RWY'N caru hen wlad fy nhadau
Gyda'i thelyn, ei henglyn, a'i hwyl,
'Rwy'n caru cael bechgyn y bryniau
Gyda thân yn y gân yn eu gwyl;
Canaf ei halawon
Nes gwneud fy mynwes yn dân,
A Chymru i gyd gaiff fod yn fud
Cyn byth y rhof heibio'r gân,
Aiff y Wyddfa fawr ar ei chwith i lawr
Cyn byth y rhof heibio'r gân.

Mae y 'Sgotyn yn hoffi ei bibell
Gyda chreigiau hen fryniau ei fro,
A chanmol ei wlad gyda'i delyn
Yn uchel mae'r Gwyddel o'i go';
Mynnaf finnau ganmol
Hen Walia orenwog a glân,
Aiff y Ddyfrdwy fawr i fyny'n lle i lawr,
Cyn byth y rhof heibio'r gân;
Bydd clychau'r llan wedi tewi'n mhob man
Cyn byth y rhof heibio'r gân.

Cara'r Saeson gael gwledd o gîg eidion,—
Cara'r trefydd, y dolydd, a'r dail;
Cara'r Negro gael byw yn y poethder
Lle mae hafddydd, a hirddydd, a haul,
Pan na charaf innau
Delyn Cymru lân,
Bydd Môn a'i stôr, wedi boddi yn y môr,
Cyn byth y rhof heibio'r gân;
Caiff Homersham Cox gerdded mewn clocs,
Cyn byth y rhof heibio'r gân.