Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Y GWAREDWR

DAETH Gwaredwr gwiw i ddynion,
O! newydd da;
Sych dy ddagrau, gaethferch Seion,
O! newydd da;
Chwyth yr udgyrn ar dy furiau,
Gwisga wên a sych dy ddagrau,
Gorfoledda yn ei angeu,
O! newydd da.

Daeth o uchder gwlad goleuni,
O! gariad mawr,
I ddyfnderoedd o drueni,
O! gariad mawr;
Rhodiodd trwy anialwch trallod,
Ac o'i fodd fe yfai'r wermod,
Sydd i'w gael yng nghwpan pechod,
O! gariad mawr.

Trefnodd ffordd i gadw'r euog,
O! ryfedd ras,
Trefnodd fara i'r anghenog,
O! ryfedd ras;
Yn y ffynnon ar Galfaria,
Golch yr aflan, ac fe'i gwisga
A chyfiawnder fel yr eira,
O! ryfedd ras.

Clywch ei lais holl gyrrau'r ddaear,
Dewch ato Ef,
Syllwch ar ei wenau hawddgar,
Dewch ato Ef;
Cewch, ond derbyn ei ymgeledd,
Nerth i ddringo o bob llesgedd,
A chewch goron yn y diwedd,
Dewch ato Ef.