Gwirwyd y dudalen hon
PEN Y MYNYDD
MOR ddedwydd dringo'r mynydd iach,
Tra t'w'nna'r haul yn llon,
A chanu cân i Gymru fach,
Heb ofid dan fy mron;
Cael eistedd ar y twmpath brwyn,
I garu anian fawr,
A gwrando si y gornant fwyn
Yn rhuthro i lawr, i lawr.
Ar ben y mynydd, dyma'r fan
I yfed awyr bur,
Ac adnewyddu'r fynwes wan
Fu'n gwaedu dan ryw gur;
Fan yma anian ar bob llaw
Sy'n banorama byw,
Ac yna nid oes dim a ddaw
Cydrhwng y dyn a Duw.
I ben y mynydd ni ddaw un
Gorthrymder erch ei wedd,
'Does dim ond natur hardd ei hun
Fan honno ar ei sedd;
Ac yno caf roi 'mreichiau'n dynn
Am wddw anian dlos,
A byw ar wên fy nghariad gwyn
O'r bore hyd y nos.