Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/108

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'DOES DIM YN Y PAPUR

DOES dim yn y papur am heddyw—dim byd
Ond hanes llofruddiaeth yn rhywle neu gilydd,
Neu eneth lofruddiodd ei baban teg bryd,
Ac a redodd o'r wlad rhag byw dan y c'wilydd;
Neu hanes am ŵr wedi curo ei wraig,
Tra dyn y drws nesaf yn clywed ei llefain,
Ond ni wyddai'r gŵr oedd a'i galon fel craig,
Mai llofrudd oedd ef hyd nes gwawriodd y bore,
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd—
Wrth gwrs, mae 'na wraig wedi marw'n yr oerni,
Ond clywir peth felly o hyd ac o hyd,
Mewn oes mor Gristnogol a hon sydd yn codi,
Neu eneth dwylledig tra hawddgar a thlos,
A daflodd ei hunan i ddyfnder yr afon,
Neu lencyn yn dwyn rhyw ferch fawr yn y nos,
Neu dad yn gweld enw ei fab gyda'r lladron;
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd,
Os na theimlwch eisieu cael hanes y trefi,
Lle mae y gwŷr mawr yn gwneud drygau o hyd,
Ond nid oes dim cosb i gael bod ar y rheiny,
Neu lanc a ddiangodd o siop gwerthwr tê,
A sofren neu ragor o bres ei feistradoedd,
Wrth reswm, cymeryd eu benthyg 'roedd e'
I brynnu teganau ar hyd yr ystrydoedd;
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.