Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd,
Ond rhes y meth-dalwyr, y geni, a'r claddu,
A'r hen fyd yn mynd ar ei gythlwng o hyd,
A rhinwedd ar lawr, a phechod i fyny,
A dwsin o goncerts a 'Steddfod neu ddwy,
A phawb oedd yn colli yn bygwth y beirniad,
A chwrdd yfed tê ym mhob treflan a phlwy,
Lle boddwyd rhyw deirawr mewn tê ac mewn siarad,
Ond mae pethau fel yna yn digwydd o hyd,
'Does dim yn y papur am heddyw—dim byd.

GOGONIANT I BRYDAIN


GOGONIANT i Brydain, paradwys y byd,
Gogoniant i'w meibion, rai gwrol i gyd;
Mewn heddwch neu ryfel, mewn tlodi neu fri,
Y dewrion Frythoniaid sy'n myned a hi.

Os daw y gelynion, a glanio'n ein gwlad,
Mae'r Saeson a'r Cymry yn gewri'n y gâd;
Yr Alban a'r 'Werddon sy'n uno â ni
I waeddi,—"Brythoniaid sy'n myned a hi."

Mae modrwy yr eigion o amgylch ein tir,
Ac am ein gwladwriaeth mae modrwy y gwir,
I gadw ein teyrnas rhag gormes a chlwy',
Mae modrwy ein hundeb yn gryfach na'r ddwy.

Mae rhyddid a chariad mewn hedd a mwynhad
Yn sail i orseddfainc Brenhines ein gwlad,
A miloedd o leisiau gydwaeddant ynghyd,—
"Hir oes i Victoria, Brenhines y byd."