Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/118

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

IACHAWDWRIAETH

CYYNLLUNIAI Duw aneirif faith gysawdau
I droi a dirwyn yn yr eangderau;
Oddiwrth ei fŷs dyferai bydoedd anferth,
Ac effaith amnaid Iôr yw'r cread prydferth;
Nid ydoedd creu y dy a'r angel rhyfedd
Ond un o oruchwylion blaenau'i fysedd;
Olwynion natur a rhagluniaeth hefyd
A droant wrth ei archiad at y funud.
Ond O! bu meddwl dyfnaf Anfeidroldeb
Yn tynnu cynllun draw yn nhragwyddoldeb,
O'r ffordd i godi dyn o ddyfnder llygredd,
Heb dynnu anfri ar ei sanctaidd orsedd;
Nid gormod dweyd fod codi'r natur ddynol
Yn brif ddrychfeddwl yn y fynwes Ddwyfol
Draw 'mhell cyn bod y cread mawr gweladwy,
Pan oedd diddymdra fel yn amhlantadwy;
Gan faint oedd llygredd dyn mewn dwfn drueni,
Bu braich y Duwdod megis ar ei hegni
Yn estyn llaw o gariad anherfynol
Hyd cyrraedd llaw lygredig y bôd dynol.

Mae Iachawdwriaeth, megis môr heb geulan,
Yn llenwi tragwyddoldeb mawr ei hunan,
O'r braidd 'roedd brigau'i donnau bendigedig
Yn cyffwrdd â chras-diroedd dyn syrthiedig,
Hyd nes daeth Crist i agor y dramwyfa
I donnau Iachawdwriaeth gael mynedfa.
Awelon cariad a gynhyrfai wyneb
Y môr diderfyn draw yn nhragwyddoldeb,