Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/119

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

A than gynhyrfiad yr awelon tyner
Ymdaflai ambell donn i grasdir amser;
Ond wele Dduw yn gwisgo'r natur ddynol,
I agor prif-ffordd i'r llifeiriant grasol
I redeg megis heibio i ddrws dynoliaeth,
Oedd bron a suddo yn ei lygredigaeth;
A phan ogwyddai Crist ei ben i farw,
'Roedd moroedd Iachawdwriaeth yn ben llanw
O flaen awelon cariad anorchfygol,
Sydd megis anadl gan y Bôd Anfeidrol.

O ddyfroedd gwerthfawr ! Dyma ffrydiau gloewon
Gynhwysant lonnaid enaid o fendithion;
Un defnyn bach o'r dyfroedd yn eu purdeb
Iachâ yr enaid claf am dragwyddoldeb;
Er lleted ydyw moroedd Iachawdwriaeth,
Ymranna'r ffrydiau mân ymysg dynoliaeth,
Fel lle mae dyn yn teimlo arno syched,
Mae ffrwd yn ymyl, dim ond iddo yfed.

O Iachawdwriaeth! Dyma gynllun rhyfedd,
Sy'n dangos gras a chariad yn eu mawredd;
Trwy'r cynllun rhyfedd hwn daw dyn yn ddedwydd,
Daw'r Nef a'r ddaear i gofleidio'u gilydd;
Trwy'r cynllun hwn mae dyn i gael ei godi
I rodio fraich ym mraich â'r angel heini;
Gall ysgwyd llaw â cherub pur a channaid,
A gwenu yng ngwynebau claer seraffiaid.
Tan effaith ffrydiau Iachawdwriaeth hyfryd
Mae tir y fendith yn ail-wisgo bywyd,
Ei dyfroedd pur sy'n wenwyn i bob llygredd,
Tra maent yn faeth i flodau tyner rhinwedd;
Yr anialdiroedd ddont yn ddolydd breision,
A thŷf y lili lle mae drain yr awrhon.