Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/36

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan ddaw diwrnod rhenti i gneifio'r holl wlad,
A phawb yn dadlwytho i berchen y stâd,
Neu fil am esgidiau, neu fil am y glo,
Neu filiau y teiliwr, y gweithiwr, a'r go,
Neu dreth y tylodion, neu ddegwm y plwy,
Mae'r cyfan yn toddi o flaen sofren neu ddwy.
Rhof glic ar fy mawd,
Yng nghanol pob gwawd,
Os bydd gennyf weddill o sofren neu ddwy.

Mae gallu angerddol ym mraich llawer gør,
A gallu diderfyn mewn tân, ac mewn dŵr,
Mae gallu rhyfeddol mewn ager a gwynt,
Mae gallu rhyfeddach o lawer mewn punt,
Mwy nerthol na'r creigiau yw sofren neu ddwy,
A thrymach na'r bryniau yw.sofren neu ddwy.
Y fellten gref, fawr,
A dynnir i lawr,
A rhed am ei bywyd rhag sofren neu ddwy.
 Gorffennaf 26, 1872.

Y NIAGARA

Yn llwyd wawl y lleuad wen—y rhua
Y Rhaeadr bendraphen;
Lawr obry fel o'r wybren
A dŵr y byd ar ei ben.

Rhag. 15.