Y LLWYNOG A'R FRAN
UN diwrnod aeth brân i lawr i'r glyn,
Ac yno ar lan y lli,
Hi godai grystyn o fara gwyn, gwyn,
Ac ymaith i'r coed a hi;
Ym mrigau hen dderwen fawr uwchben,
Disgynnai ar gangen lân,
Ar hyn dyma lwynog at fôn y pren,
A gwelai y crystyn a'r frân.
"Wel O!" meddai'r llwynog, "y mae hi'n un lân,
Mae'n curo yr adar bob un;
Y fi ydyw honno," dywedai y frân,
Gan siarad â hi ei hun;
Ni welais un harddach erioed ar bren,"
Dywedai y llwynog yn hy,
Mi welais gryn lawer o adar y nen,
Ond welais i 'rioed y fath blu."
Ysgydwai'r hen frân ei hadenydd mor llon,
A'r llwynog mor barod ei ddawn,
A ddwedai,—"Mae deryn mor hardded a hon,
'Rwy'n sicr, yn canu yn iawn."
Wrth glywed fath ganmol, gwirionodd y frân,
A balchder a lanwodd ei bryd,
Agorodd ei phíg, a dechreuodd ei chân,
A'r llwynog gai'r bara i gyd.
Os gwelwch chwi lwynog o ddyn ar ryw dro,
A'i eiriau yn weniaith di-sen,
Gochelwch ei weniaith rhag ofn iddo fo
Gymeryd eich tamaid o'ch pen;