Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Pan glywch chwi ryw siarad nodedig o fwyn,
A chanmol eich glendid a'ch cân,
Wel, cofiwch ar unwaith y llwynog yn dwyn
Y crystyn o bigyn y frân.
Chwef. 21, '73.

YR EISTEDDFOD


OS yw ein brodyr hwnt i'r Clawdd
Am hel a dal llwynogod,
Pam na chawn ninnau hedd a nawdd
I gynnal pwt o 'Steddfod ?
Os ydynt hwy yn teimlo blas
Ar redeg hen geffylau,
Pam na chawn ninnau redeg râs
I weld cyflymdra pennau ?
Cadwn yr Eisteddfod,
Parchwn yr Eisteddfod,
I gadw'r hen Gymraeg yn fyw,
Does dim yn well na 'Steddfod.

Daw rhai i'r 'Steddfod draw o bell
I ennill y gwobrwyon,
Daw ereill yno i drin eu gwell,
A gwneuthur trwynau surion;
Mae'n ddigon drwg ar lawer ffrynd
Sy'n myned i feirniadu,
Ond dyn a helpo'r sawl sy'n mynd
Yn feirniad ar y canu !
Cadwn yr Eisteddfod,
Diwygiwn yr Eisteddfod,
A chadwn bob rhyw gynen gâs
Tu allan i'r Eisteddfod.