Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/95

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Tu ol i'r lle'r eisteddai,
Ar hyd y llwybr troed,
Daeth dau o hoew lanciau
Dan siarad, drwy y coed;
A pheth oedd pwnc y siarad
Pan ddaeth y ddau i'w chlyw,
Ond dadlu p'run oedd cariad
Anwylaf Morfudd Puw.

Pob un o'r ddau a farnai
Mai ef a fyddai'r dyn,
Pob un o'r ddau a ddygai
Ei reswm drosto'i hun;
Pan oedd y ddadl yn boethlyd,
A'r geiriau yn tynhau,
Daeth llais o'r llwyn yn dwedyd,
"Ni fynn hi'r un o'r ddau."

Bu mab i dir-feddiannydd,
A thipyn bach o 'stad,
Yn ceisio caru Morfudd
Trwy siarad hefo'i thad;
'Roedd hwnnw'n meddwl, druan,
Do'i Morfudd yn ei brys
I garu gŵr âg arian
Wrth ddim ond codi'i fŷs.

Pan aeth y llanc i siarad
A'r anwyl Forfudd Puw,
Deallodd wrth ei llygaid
Nad oedd ef at y lliw;
Peth gwael yw swllt am garu
Gan fron sy'n llawn o serch,
Nid llinyn aur all g'lymu
Dwy galon mab a merch.