Bu llawer gwladwr lawer pryd
Yn chwilio am drysorau drud
Ymysg clogwyni'r mynydd;
Ond O ! daw estron yn ddioed
I gipio'r perl oddiwrth ei droed,
Ac felly fu am Morfudd.
'Roedd pawb trwy'r fro yn meddwl
Ei bod yn llawn o serch,
Ond, rywfodd, wedi'r cwbl,
'Doedd neb gai garu'r ferch;
Ymddangos byddai'n wastad
Fel seren dêg ei bri,
A holl nodwyddau cariad
Gyfeirient ati hi.
A llawer llaw a chalon
Yn estynedig fu,
A llawer oent ry fyrion
I gyrraedd Morfudd gu;
Bu delw'i gwyneb glanwedd
Mor ddwfn mewn llawer bron,
Nes methodd deugain mlynedd
Lwyr ddifa'r ddelw hon.
'Roedd Morfudd dyner unwaith
Yn cneua yn y coed,
Lle bu hi lawer canwaith
Yn ysgafn iawn ei throed,
Ar foncyff hen eisteddai,
Dan berth oedd werdd ei gwisg,
Ac yno syn-fyfyriai
Wrth dynnu'r cnau o'r plisg.