Tudalen:Gwaith Mynyddog Cyfrol 1.djvu/93

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'Does dim ond bron serchog
Yn ddigon galluog
I dynnu y palas
I ymyl y bwthyn,
A chodi hwn gwedyn
Cyn uched ei goryn
A chartref urddas.


Genethig dlôs oedd Morfudd Puw,
Yn dlysach braidd na neb o'i rhyw
Oedd yn yr ardal honno;
A llawer llanc wrth weled hon
A deimlodd rywbeth dan ei fron
Na fedrai ddim ei 'sbonio.

Ymrithiai cariad ar ei boch
Trwy dlysni pur y rhosyn coch
Eisteddai yno'n wastad;
Ac am ei llygaid bywiog, llawn,
Nis gwn i beth i'w galw'n iawn,
Os nad ffenestri cariad.

Amaethwr bychan oedd ei thad,
Heb weled fawr ond symledd gwlad
Fynyddig, wyllt, a dedwydd;
A gwyntoedd ffawd a chwythai luwch
Goludoedd i ryw leoedd uwch
Na chartref anwyl Morfudd.

Ond gwelwyd blodau llawn o swyn
Yn tyfu'n mysg y grug a'r brwyn
Ar hyd llechweddau'r mynydd;
Ac ymysg geirwon greigiau serth
Y cafwyd llawer perl o werth,
Ac un o'r rhain oedd Morfudd.