Rhagymadrodd.
WELE lafar eto, wedi angof llawer cenhedlaeth, i gân dduwiol a melodaidd Owen Gruffydd o Lanystumdwy. Try y byd ei glust yn hawdd i wrando ar fardd ieuenctid a chariad a thlysni 'r byd hwn; rhodder ambell awr dawel, hefyd, i wrando ar fardd henaint a'r bedd a'r farn a fydd. Y mae i'r delyn a'r crwth eu swyn cynhyrfiol byw; y mae i'r gloch hithau, o'r pellder draw, ei melusder tawel suol. Trown, am unwaith, oddiwrth fardd y dychymyg a'r bore; eisteddwn orig gyda bardd henaint a'r hwyr.
Ganwyd Owen Gruffydd yn 1643, bu farw yn 1730. Blynyddoedd cynhyrfus oedd y blynyddoedd hynny, blynyddoedd y Rhyfel Mawr[1] a blynyddoedd y Weriniaeth, blynyddoedd adferiad brenhiniaeth a blynyddoedd Chwyldroad 1688, blynyddoedd y rhyfeloedd meithion a blynyddoedd y wleidyddiaeth chwerw. Ond yn dawel iawn y bu Owen Gruffydd byw. Yn Llanystumdwy y bu ar hyd ei oes,—mewn ty ar dir y Ty Cerrig, yna yn y Siamber Fechan; a chafodd fedd ym mynwent ei blwy. Ychydig a wyddis o'i hanes boreol. Dywed traddodiad mai mab i offeiriad oedd, mab heb ei arddel. Ei waith oedd gwaith gwehydd a gwaith bardd. Gweai ddillad i'w gymdogion, gweai ei ddychymyg ddillad ysbrydol am gof hen wladwyr urddasol,—dillad oedd yn ddanghoseg i'w rhinweddau ac yn llen dyner dros eu bai.
- ↑ Cyn 1914-18 Y Rhyfel Mawr oedd Rhyfel Gartref Lloegr (tua 1639-1652)