Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Er ei dlodi a'i ddiffyg bonedd, yr oedd fel tywysog ymysg ei bobl. Amrhydeddid ef oherwydd yr awen oedd iddo; tybiai rhai ei bod yn ddawn proffwydoliaeth, ac eraill fod ysbryd dewiniaeth ynddi. Ymdyrrai plant o'i amglych, cyn i'r gwasanaeth ddechreu ar y Sul; perchid ef fel ymgorfforiad o'r henaint tawel na flinir gan nwydau ac uchelgais bywyd. Gofynnodd yr Esgob Humphreys ddysgedig foneddig, meddir, i'r hen wr godi yn yr eglwys a mynd allan o flaen. neb, oherwydd mai efe oedd y mwyaf anrhydeddus. Ar hyd ei fywyd hir bu ei ganeuon yn addysg grefyddol i'w oes, a honno yn oes dlawd mewn dylanwadau ysbrydol. Yn nydd y canu maswedd arwynebol, bu ymadroddion genau Owen Gruffydd, a myfyrdod ei galon, yn gymeradwy ger bron ei Brynnwr.

Nis gellir dweyd fod fflachiadau athrylith yn ei waith, fel yng ngwaith ei gyfaill Sion Dafydd Las; anaml y ceir tarawiadau naturiol Edward Morris na grym desgrifiadol Goronwy Owen yn ei waith ef. Ond ceir yn ei awen rym moesoldeb, hiraeth am burdeb, chwaeth ddyrchafol, a boneddigeiddrwydd dwys y gwir Gristion.

Canodd lawer marwnad a chân briodas i deuluoedd ysweiniaid Eifion, Meirion, Lleyn, ac Arfon. Yr oedd eu hachau ar flaen ei dafod, a medrus y medrai osod o'u blaen y rhinweddau yr ymfalchient ynddynt fel meddiant teulu. Yn ei gywyddau ef y cedwir eu hanes,—Boduan, Madryn, Cors y Gedol, Meillionydd, Clenenau, Dinas, y Glyn, Nannau, Bryncir, Cefn Treflaeth (a oedd ef ei hun yn hannu oddiyma?), y Gesail Gyfarch, Maes y