Neuadd, Ynys y Maengwyn, Bodwrda, a llawer eraill.
Canodd ei gyfaill William Elias[1] wrth roddi corff Owen Gruffydd yn ei arch i fynd i ddaear Llanystumdwy, Rhagfyr 6. 1730, fel hyn,—
"Rhoi'r bardd mwyn, cufardd, mewn cist—o oer dderw.
I'r ddaiaren athrist;
Oi edrych wyf yn odrist,
Mae'n bruddedd, druanedd drist."
William Elias, hefyd, yw awdwr yr englynion sydd ar ei garreg fedd yn Llanystumdwy,—
"Dyma fan syfrdan y sydd—oer gload
Ar glau—wych lawenydd,
Cerdd a phwyll cywir dda ffydd
Awen graff Owen Gruffydd.
Dwys—fyfyr, difyr, dioferedd—gamp
A gwympwyd i'r dyfn-fedd;
Pen clo cân, pinacl ceinwedd,
Gloew wych fawl, gwelwch ei fedd."
Nid yw y gyfrol hon ond detholiad o'i waith. Gadawyd y cywyddau achau ar ol; y maent yn fwy o werth, feallai, fel hanes hen deuluoedd pendefigaidd, nag fel barddoniaeth i ennill ffansi yr oes werinol hon. Ond dengys y cywydd cof am Sion Dafydd Las gymaint o farddoniaeth ac o deimlad fedrai Owen Gruffydd roddi mewn cywydd marwnad.
Am y cwbl sydd yn y gyfrol, a llawer ychwaneg, yr wyf yn ddyledus i lafur cariad diymhongar a gwerthfawr Myrddin Fardd. Efe yw bywgraff-
- ↑ Cyfaill Goronwy Owen. O'i ysgriflyfr ef y cafwyd y darlun o Owen Gruffydd roddodd i Mr. Arthur E. Elias,—un o'i ddisgynyddion,—amlinellau i wneyd wyneb—ddarlun y gyfrol hon.