Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Owen Gruffydd o Lanystumdwy.djvu/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ydd Owen Gruffydd,[1] a chasglydd ei waith, ac iddo ef y mae Cymru i ddiolch am sicrhau sylw i fardd na ddylid ei lwyr anghofio. Y mae peth o'r gwaith yn llaw Owen Gruffydd ei hun.[2]

Ni newidiais ond ychydig ar y llythyraeth, megis rhoddi ambell i'w yn lle yw, a lle yr oedd y bardd yn anghyson ag ef ei hun. Gofelais beidio newid dim sy'n taflu goleu ar hanes yr iaith, neu sydd yn dangos ol tafodiaith ardal Owen Gruffydd.

Owen M. EDWARDS.

Coleg Lincoln, Rhydychen,

Ionawr 1, 1904.
  1. Gwel y Llenor, Llyfr II. (Ebrill, 1895). Casglwyd i'r erthygl hon bob ffaith sydd mewn ysgriflyfr neu ar dafod am Owen Gruffydd. Gweler y bedd-argraph yn "Gleanings from God's Acre tra dyddorol Myrddin Fardd, tud. 236
  2. Nid wyf yn sicr ym mha le y mae y llawysgrifau yn awr. Mae rhai yn eiddo i Myrddin Fardd, ac y mae wedi gwneyd casgliad cyflawn o waith Owen Gruffydd o lawysgrifau Peniarth, Madryn, a lleoedd ereill.