Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/10

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Codwyd y caneuon i gyd o un o dair llawysgrif, —llawysgrif Robert Owen ei hun, llawysgrif "Mary" ei freuddwydion, a llawysgrif Owen ei frawd. Y mae'r brawd ieuengaf hefyd, erbyn hyn, wedi huno; ar ol gyrfa ferr, ond hyawdl, fel gweinidog yr efengyl.

I Mrs. M. Vaughan Humphreys, Brogyntyn, Abermaw, yn unig o rai sy'n fyw, y mae'n ddyledus i mi dalu diolch. Onibai am dani hi, ni fuasai Cymru wedi adnabod awen Robert Owen. Bu ei chynhorthwy yn barod a charedig, er pob cost a thrafferth.

Er fy mod wedi cael y fraint o adnabod llawer o'i berthynasau o'm hieuenctyd, ni welais Robert Owen erioed. Ond gallaf newid un o'i ganeuon, a'i dweyd fel fy mhrofiad fy hun, ac hefyd mi gredaf fel profiad Cymru,— {{center block| <poem> "Er diffodd o'i fywyd cyn imi erioed A'm llygad o gnawd ei weled. A thewi ohono cyn imi erioed A'm clust o gnawd ei glywed,— 'Rwyf wedi ei weled, ac ar fy nghlust Ei lais mwyn a dwys fu'n disgyn, Ym myd fy nychymyg mae eto n fyw, Ac eto'n ddiboen, megis plentyn."

OWEN M. EDWARDS.

Llanuwchllyn,
Ebrill 2, 1904.