Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/9

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Rhagymadrodd.

AMRYW flynyddoedd yn ol, tra'n crwydro mewn gwlad dros y môr, daeth caneuon Robert Owen i'm sylw. Swynwyd fi ar unwaith gan brudd-der y bywyd a chan felodedd y gân. Nid oedd ef, mae'n debyg, yn meddwl wrth eu canu y cyhoeddid hwy byth. Canodd hwy fel y cân aderyn, i roddi ffrwd i'w deimlad.

Cyhoeddais rai ohonynt. Byth er hynny y mae llawer o bobl o wahanol ddulliau o feddwl, a rhai y mae gennyf ffydd gref yn eu barn, wedi deisyfu arnaf gasglu gwaith Robert Owen, a'i gyhoeddi 'n gyfrol. Wele 'r gyfrol. Hyd y gwn i, cynhwysa bob prydyddiaeth gyfansoddodd Robert Owen.

Nid yw enw Robert Owen yn yr un geiriadur bywgraffyddol na hanes llenyddiaeth eto. Oherwydd hynny rhoddir hanes ei fywyd yn gyflawnach nag y rhoddwyd hanes yr un bardd arall yn y gyfres hon.