CWYMPIAD Y DAIL.
DEILEN ar ol deilen wyw
I'r llawr sy'n pruddaidd gwympo,
Fel gobeithion oes ym myw
Fron ieuenctyd wrth heneiddio,
Deilen ar ol deilen sydd
I'r llawr yn distaw gwympo,
Fel y disgyn dro i'r pridd
Yr henwr i huno.
Lawer boreu, gyda'r dydd,
O'm 'stafell wely,
Bum yn gwylio ysbryd cudd
Y gwanwyn yn ymdorri,
Drwy y blagur ar y coed,
Yn fy hiraeth am y Bermo,
Mewn breuddwydion pymtheg oed
Eto'n byw, i farw eto.
Lawer hamdden ganol dydd
Ym mis Mehefin,
Teimlais yn fy mynwes brudd
Ber-lesmair yr haf melyn;
Yna 'roedd y dderwen hy
Dan.ei deilwisg yn ymheulo,
Ar blodeuos, lu ar lu,
Y ddaear yn addurno.
Dyn ac anian ar bob llaw
Wleddent yn eu bywyd,
Oedd fel pe yn cadw draw
Ofn angau am ryw ennyd,
Gwir y gwywodd oerwynt Mai
Ddail a blodau heb eu cymar—
Tynged pob rhagoraf rai
Ydyw marw'n gynnar.