Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/103

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Fel y gweddai'n deg i ffydd
Ymarferol John,
Merthyr aeth ym more 'i ddydd
I'r ddyledswydd hon;
Angau'n ddistaw ato ddaeth,
Pan yn brysur wrth ei waith,
Ac o ganol gorchwyl aeth
I'w orffwysfa.

Eto, er ei farw cyn
Dwy ar hugain oed,
Ni bu yn y byd er hyn
Lwyrach oes erioed;
Megis pryddest ferr a thlos
Ar ymaberth, fu ei oes,
Megis seren yn y nos,
Nid i'w hun yn tw'nnu.

Cenedlaethau dirif sydd
Yn malurio dan
Gysegredig gysgod prudd
'Mynwent yr hen Lan;
Ond nid oes o fewn i'w thir,
Yn tristhau ei heddwch hir
Galon ddewrach na mwy pur
Nag oedd calon Freeman.

Dyro, Dduw, i minnau nerth,
Yn fy nghyfran i
'N uwch i ddringo llwybrau serth
Dy ewyllys di;
Bywyd a marwolaeth John
Fyddo'n wastad dan fy mron,
Nes diflannu'r ddaear hon
Fyth o'm golwg.

1878.