Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/107

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Eto mynnwn ambell ddydd
Ennyd fer anghofio
Gofid fu a gofid fydd,
Er ymdeimlo
Awen bywyd dan fy mron
Yng nghuriadau cry' fy nghalon,
Mewn ymhyder cryf a llon
I wynebu pob treialon.

Ond nid haf mohoni mwy―
Hydref bellach-
Gauaf bron-awelon trwy
Gangau noethion mwyach
Yn dyruddfan; popeth cu,
Popeth siriol wedi trengu―
Dim ond beddau ar bob tu,
Beddau a galaru.

"Gwell yw deilen nag yw dyn
Eto," medd fy nghalon,
Pau i'w hanorffwystra'i hun
Yr ymrydd ar droion;
Bu i'r ddeilen goch yn awr,
Haf a gwanwyn ac ireidd-dra,
Ond i uchder llwch y llawr
Dim ond crinder gaua'!"

Marw'n faban,-marw'n hŷn―
Marw'n nwyf ieuenctyd―
Marw'n 'nghanol blwyddi dyn―
Marw'n henwr myglyd!
'Does ond ugain mlwydd er pan
Anwyd fi, ac eto
Angau ar fy mynwes wan
Eisoes sydd yn pwyso.