Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/108

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ai i hyn y dos i'r byd?
Ai i ddim ond syllu
Ar ei rawnwin teg eu pryd,
Eto heb eu profi?
Ai i yfed oll fy hun
Gwpan trallod chwerw-
Colli tad a mam a mun―
Ie, ac i farw?

"Nage ddim" medd llais o'm blaen,
Medd llais o'r twllwch,
"Ond iti ddysgu ymha fan
I chwilio am ddedwyddwch;
I aredig, llyfnu, hau,
Dy enaid gwyllt a garw,
A'th gymhwyso i fwynhau
Byth-dyfiant wedi marw."