Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

<poem>

Oddicartref. Y FFORDD I BARADWYS. RTH ddrws ysbyty, un bore oerddu, 91 WRTH ddws ysbyty, anwyl ag a 'welsoch erioed, Yn curo'n wannaidd, a'i llaw blentynaidd, A'i llaw fach deneu, seithmlwydd oed. Ar ei gruddiau, yn lle rhosynau, 'Roedd ol y dagrau; ac yn ei phryd Lwydni anghenion a gofid calon, A hi ond ar drothwy bywyd a byd. Y porthor agorodd, a hithau ofynnodd Mewn tristwch a phryder, y fechan ddi-nam,- "A wyddoch chwi, borthor, pa le mae fy mam?" Mudsyllai'r dyn arni, gofidiai.drosti, Cans 'roedd ef yn meddu teimladau tad, Ac a'i lygaid yn llenwi gan ddagrau tosturi, Atebodd iddi, "Fy mechan fad, Mae'th fam wedi symud, byth mwy i ddychwelyd, Ac wedi cymeryd Y ffordd tua Pharadwys wlad." Gofynnodd hi eto, cyn troi oddiwrtho,- "A fyddwch chwi gystal a dweyd i mi am Y ffordd sydd yn cymwys fynd i Baradwys Er mwyn im fynd yno at fy mam?" Yntau mewn cyni pa beth i'w ddweyd wrthi, Nis gallai amgen na phwyntio â'i law Yng nghyfeiriad y ddwyrein-wlad, Tua chyfodiad yr heulwen draw. Ymaith a'r fechan tua'r dwyrain, Ymaith ei hunan drwy'r oerni a'r gwlaw;