Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

<poem>

92 Robert Owen. A phan y digwydd i'r neb a'i cyferfydd, Wrth weld ei hunigrwydd a byrder ei cham, Ofyn ei siwrnai, ei hateb fyddai,- Rwy'n mynd i Baradwys í fyw at fy mam." Ben bore wedyn cafwyd y plentyn Megis mewn cynt-hun tawel a thlws, Wedi rhynu ar risiau lleiandy, A'i phen bach yn gorwedd ar riniog y drws; I fewn ar fynwes tyner fynaches Aethpwyd a'r fechan i stafell glyd, Diosgwyd am dani, gwnaed popeth i'w chynhesu, A'i hadfyw; ond ofer fu'r cwbl i gyd. Eto, am eiliad agorodd ei llygad, Gwasgodd eto ei gwefusau ynghyd, Fel i ddweyd Ffarwel" wrth ofid ac oerfel; Yna rhoddodd ei henaid lam, Nid i ddiddymdra, nid i dywyllfa, OND I BARADWYS,

Yno i orffwys yn mynwes ei mam.

<poem>