Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

GOBEITHION IEUENCTYD YN MARW.

<poem> TRWM, trwm yw gweld gobeithion gwanwyn oes. Fel egin cain, yn gwywo cyn addfedu, Prudd canfod llawer gweledigaeth dlos, Fel tarth y boreu, ymaith yn diflannu. Nid dyfnach loesion mam goruwch y fan Lle'r huna yr anwylaf un a fagodd, Na chyni calon ieuanc, dyner, pan Mae awen oes, ar ddechreu nos, yn diffodd. Mor deg yr ymddangosai lliwiau bywyd I'm llygaid pan yn fachgen deuddeg oed, Heb gwmwl oll i daflu cysgod adfyd Nac awel fain i sibrwd poen yn bod. Bryd hyn ymrithiai llawer gwech olygfa Mwy swynol nag oedd Eden ardd, o'm blaen, 'Roedd cyfoeth, dysg, enwogrwydd yn y pelldra, Ac edyn gobaith yn y gwynt ar daen. Ond duodd amgylchiadau cyn bo hir, Amdowyd fi gan gymyl profedigaeth, Ac yn y twllwch hwnnw, er fy nghur, Diflannodd swynion hoff y weledigaeth. Bu im gyfeilles yn fy nyddiau heulog, Un deg a hawddgar fel y wawrddydd lon, Un garwn hyd orphwylledd gan mor serchog Ei chalon ieuanc atai 'r adeg hon. Anorphenedig 1876. [Gorffennwyd fel y canlyn yn unigedd cystudd yn Awstralia. Cryf iawn cyfaredd y gobeithion hynny, A lechent yng nghynteddau'i mynwes glau;