Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/114

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

<poem>

96 Robert Owen. Ac O mor deg dyheu am oes i'w charu, I'w pharchu, i'w hamddiffyn, i'w boddhau. Y Nef a ŵyr mor werthfawr i fy llygaid Oedd dim ond deigryn yn ei llygad du, A minnau wn mor gyfyng ar fy enaid Oedd gweld nad oedd ei chalon man y bu. Bu im rieni, anwyl iawn a thyner, Fuasent barchus unwaith yn y byd, Er nad yn esmwyth, nac à mwyniant lawer, Eto heb ddarostyngiad yn eu pryd. Ond adfyd ddaeth, ac angeu, a phruddhad, Hyder a gobaith ymaith wedi cilio ; Cydnabod yn troi draw, a nerth fy nhad Cyn hanner cant mewn tristwch yn diffygio. Fy nghalon innau wasgwyd hyd ei llethu Gan bwys y ddyrnod, a chan rym eu gwae, A'm mynwes ysid gan ymawydd gallu Ysgafnu'r baich oedd beunydd yn trymhau. Gobeithiais lawer, a dymunais fwy, A phenderfynais, os fy llwyddai Duw, Y mynnwn yn y man eu gweled hwy Uwch angen a bys anfri eto'n byw. Uwch angen a bys anfri aethant mwy, Ond nid trwy'm cymorth i. Y Gelyn Olat Wnaeth y gymwynas bennaf iddynt hwy; A chyda'u llwch yr huna'm hawydd hoffaf. Ac erbyn heddyw wele wedi trengu Fy ngobaith cyntaf pan yn blentyn iach, A'm gobaith olaf yma, fyth ond hynny- Ofer gobeithio byw ond ennyd bach.