Gwirwyd y dudalen hon
Ond trenged er mor gu, obeithion bywyd,
A gwaeded gan ei briw fy nghalon wan,
Ac aed fy nghorff i orwedd man yr huna
'R anwylaf oll, dan ddwys briddellau'r llan.
Mae gobaith eto sydd mor ddwfn ei wraidd
A gwraidd fy hanfod i, a'i gangen ir,
A'i ddeilen werdd, uwch awyr byd a draidd
Tuhwnt i'r ser, i awyr bywyd pur.
Mae eto fyd yn ol a lwyr gyflawna
Ein poenus ddiffyg yma, man y cawn
Fyth yfed per ddedwyddwch o gostrelau
Oedd yma fyth o chwerwder yn llawn.
Mesur ein diffyg yma a fydd yno
Fesur ein llawnder mwy. Ac O fwynhad,—
Cael Mary Ann dros byth i'm caru eto,
A gweld mewn gwynfyd mwy fy mam a'm tad.
