Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/116

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

VI. AR Y MOR


AT OWEN.

NOS DAN Y CYHYDEDD.

O'R diwedd-O mor hyfryd!-dyma'r nos,
Ac oerni hafaidd wedi gwres y dydd;
A pher lonyddwch megis angof oes
O wae, a hamdden i fy nghalon brudd
I geisio lleddfu ennyd ingoedd loes
Fy nadwahaniad a'r anwyliaid sydd,
Er dyfned yn fy nghof eu delwau hwy,
Mor belled eisoes, ac mor bell, bell mwy!

Owen, fy anwyl frawd, na fyddet yma,
Yma yn awr er im' gael arllwys rhan
I'th fynwes dyner di o'r dwys-deimladau
Sy'n araf-sicr lethu'm calon, pan
Nad oes i'w thost ymferwad mwy ollyngfa-
O fil mwy unig nag unigedd man,
Unigrwydd bod, unigrwydd barn a nwydau,
A diben bywyd-ac unigrwydd dagrau.

Ond dyma'r ser, cyfeillion hoff yr unig,
Yn dechreu syllu eto oddi.fry,