Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/117

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A threm mor ddifrif ddisglaer, er mor ddiddig,
Megis pe byddent lygaid ysbryd cu
Y Cread, neu ysbrydion dwys-buredig
Rhai a brofasant unwaith, fel nyni
Yn awr, flinderau bywyd, ac sy'n dyfod
I wenu arnom gysur yn ein trallod.

Mae'r Llathen Fair" yn twnnu uwch fy mhen,
A'r Llong" ddi-hwyl, a myrddiwn eraill yma.
Ar donnau'r aig, fel bryniau Cymru Wen,-
Yn twnnu eto'n union fel yn nyddiau
Fy mebyd, pan oedd eto glir fy nen,-
Yn union fel pan ddysgwn i eu henwau
Oddiar wefusau'm tad ar lannau'r Maw,
Wrth ddod o'r capel adref yn ei law.

Mor deg eu llewyrch, ac mor drist i mi!
Yn eu goleuni gwelaf,-O mor glir!-
Agweddau hoff ond gwelw'r hyn a fu
Ar hyn na fydd, yn niniweidrwydd pur
Y baban heb ei eni, gyda'r llu
O fyfyrdodau ffyddlon a fu'n hir
Yn gweini arnynt, ag sydd eto'n gwarchod
Eu coffadwriaeth rhag rhwd oes a'i difrod.

Mor deg eu llewyrch, ond mor ddiwahaniaeth,
'Rwyf yn eu cofio'n gwenu ar fy nhad
Yn nawn ei nerth, ac arnaf finnau 'ngobaith
Bachgendod iach, a chariad a mwynhad
Maent eto yn pelydru'r un mor odiaeth
Ar laswellt bedd fy nhad ac ar nacad
Y cwbl a obeithiais i ond bedd,―
Nerth, serch, enwogrwydd, meithder einioes, hedd.