Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/128

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ac eto pan, â'i fysedd main,
Y mae afiechyd tan fy mron
Yn dwyn o'r gwraidd y blodau cain
Fu ynddi'n tyfu gynt yn llon,—
Gobeithion, dymuniadau oes,
A gwŷn mwynhad y ddaear hon,
Ac O mor chwerw-lym y loes
O'u gweld yn gwywo,—

Bryd hyn fy nghariad atat ti
Ym myw fy mynwes sy'n dyfnhau,
Yn lledu'n fwy ei wreiddiau fil ;
A thranc serchiadau eraill brau
Nid yw ond yn eangu grym
Ei afael ef, ac yn gwyrddhau
Ei ddail, fel nas gall anadl llym
Afiechyd byth ei ddeifio.

Ond, ond, mae'r ddifrif awr gerllaw
Pan raid ymdaro'n nerth y donn,
A cheisio glan yr ochr draw,
Dy serch, fy Mary, dan fy mron ;
Dy serch mor bur drwy bob tristhad,
Er broched lle'r Jorddonen hon
Hyderaf eto gyrraedd gwlad
Lle nad oes darfodedig.

Gall, gall, nas dichon imi ddwyn
Trwy'r angeur oll sy'n awr yn rhan
O'm bod, ac y difwynai swyn
Fy hoffaf bethau yn y man;
Ond serch fy enaid atat ti
Sydd burach, gryfach ar y lan,
Ac ni bydd Nef ei hun i mi
Ond man i'th fwyfwy garn.