Gwirwyd y dudalen hon
Cul, cul, ac unig yw y glyn,
Nid wyf ond clywed oddi draw
Hoff ddadwrdd bywyd erbyn hyn,
A rhu'r Iorddonen ddofn gerllaw;
Tra'r geulan olaf dan fy nhraed
Yn araf lithro, er fy mraw,
I'r tonnau geirw sy'n ddibaid
Yn ceulo dani.
Cul, cul, ddiobaith yw y glyn,-
Byth nid oes modd ei ddringo'n ol
I'r iechyd a'r dedwyddwch fu'n
Fy ngwarchod unwaith yn eu côl,
Na syflyd cam o'r man yr wy'
Yn hiraeth-syllu ar fy ol
Am ennyd cyn anturio trwy
Y dyfroedd oerion.
Ond er mor gul a llwm y glyn,
Ae er mor dywell yw y nen,
Ac er mor serth y bryniau sy'n
Ymddyrchu'n frigog uwch fy mhen
I'm cau rhag bywyd ; eto mae
Un seren anwyl, ddisglaer, wen
O'r entrych gwywol, ar fy ngwae
Yn tyner-ddwys dywynnu.