Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/130

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

MYFYRDOD MEWN UNIGEDD.

YMA'N syllu ar y marwor
Poeth yn tw'llu ar yr aelwyd;
Yma f'hunan yn f' ystafell
Wag yn gwrandaw ar yr awel
Oer yn cwynfan wrth fynd heibio;
Yma megys yn cymuno
Ag ysbrydion y gorffennol,
A chysgodion y dyfodol,
Tra fy mynwes ar ymdorri
Gan ddirwasgiad ei theimladau,
Gan ei serch a chwilia'n ofer
Am ei gymar mewn bron arall―
Tra mae gorthrwm fy modolaeth
Arna'i 'n pwyso megis hunllef,
Ac yn gwasgu'm calon fwy-fwy
I'w hymddrylliad—O f'anwylyd,
Mae dy wedd fel gwyneb angel
Yn ymrithio ger fy llygaid,
Ac yn gwneyd i'm calon lamu
Eto unwaith, fel yn nyddiau
Ein plentyndod. O dy lygaid
Du a disglaer, disgyn arnaf
Megis awen dy brydferthwch,
Megis traswyn dy hawddgarwch,
Megis adladd y breuddwydion
A'r gobeithion a ymwëent
Gynt oddeutu twf dy swynion.
Mary, Mary, a wybuost
Ti erioed mor ddwfn fy nghariad
Tuag atat? Ac mor werthfawr
I fy enaid am flynyddau
A fuasai dim ond hanner
Gwên oddiar dy wyneb anwyl?