Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A wybuost ti fy ingoedd
Pan yn byw yn nhir anobaith,
Pan yn dlawd gan ddiffyg arian
Pan yn dlotach gan dy golli—
Er dy garu fyth yn ddyfnach,
Er dyheu am farw trosot
Neu am fyw ond i'th ddedwyddwch?
Nid oedd tlodi imi'n erchyll,
Nid oedd dwfn fy narostyngiad,
Ond fel i'm pellhau oddiwrthyt
Ti, fy eilun a'm trueni.
Anwylyd hoff, a wnei di gredu,
Cyn i'm calon beidio a churo,
Cyn i'w brau linynnau dorri,
Ac i'w sylwedd fynd i bydru
Is oer gwrlid y dywarchen.—
Wnei di gredu ddarfod iddi
Yn ei llawnder nerth dy garu
Uwch pob haeddiant ond y nefoedd,
A phob cariad ond a siomer?
Ac mai atat ti yn unig,
Ti uwchlaw pob peth daearol,
Atat ti uwchlaw ei Chrewr
Fyth y mynnai'm calon guro?
Pan ei gwaed yn araf rewi
Is edrychiad oerllyd angau,
Cred, O cred! neu ni bydd esmwyth
F'enaid noeth ym myd ysbrydion.
O'm gobeithion oll a siomwyd!
O'm cynlluniau a ddyryswyd!
O fy nhalent a ddifuddiwyd!
O fy mywyd a ddifethwyd!
Mor ddiamcan, mor ddi-ystyr,
Mor amherffaith, mor anwyfol!
Mor ddilawn o bob daioni!