Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

AC eithrio Glasynys, nid oes fardd Cymreig, hyd y gwni, wedi ymhyfrydu â'i holl enaid ym mhruddder su tragwyddol ymôr. Clywir adlais rhu ei donnau mewn llawer emyn a chân, ond nid mor aml y darlunnir ei brydrerthwch a'i swyn. Yr un gair a marw ydyw ei enw, anial ac oer ac ystormus ydyw i lawer bardd Cymreig. Gwell ganddo ef ddilyn Wordsworth i dawelwch mawreddog a sancteiddiol y mynydd na dilyn Byron mewn llawenydd rhyddid hyd donnau ystormus y môr. Am nefoedd y Cymro, fel am nefoedd yr Iddew, gellir dweyd, — "A'r môr nid oedd mwyach."

Y maer môr ar dri thu Cymru, nid oes ond dwy o'r tair sir ar ddeg heb fod yn taro arno. Y mae tlysni a hyfrydwch ei lannau yn ddihareb; ac y mae'n debyg nad oes yng ngolygfeydd y byd olygfa dlysach na'r lle mae'r afon Maw yn ymgolli yn y môr. Ond hyd yn oed yno. nid yw'r beirdd wedi teimlo swyn y môr; ac nid oes dim o'i fawredd gorfoleddus, nag o hyfryd awgrymiadau ei su esmwyth pell, wedi mynd i'w cân. Ar y naill ochr i'r Maw yr oedd Dafydd Ionawr; ond enaid at ramadeg a rheolau cynghanedd oedd ganddo ef, nid at chwyldroad a'r môr. Yr ochr arall yr oedd Sion Phylip, sydd a'i fedd ar ymyl y tywod, lle mae'r gwylanod yn hofran