Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/14

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

uwchben adeg ystorm; ond dros y mynyddeedd yr edrychai ef, mewn pryder am eglwys a gwladwriaeth, ac nid dros y môr tua chartref y pererin rhydd.

Unwaith tybiais fod bardd wedi ei enii wneyd swn y môr yn rhan o feddwl a chân Cymru. Ugain mlynedd yn ol cyfansoddwyd "Swn y Môr" gan fachgen ieuanc yn yr ysgol. Nid oedd ond dwy ar bymtheg oed; ond yr oedd gofid, a hadau afiechyd hwyrach, wedi ei ddysgu i sugno cydymdeimlad o swn y môr. Aeth i lan y môr ac i ymylon tragwyddoldeb yn ieuanc, ac y mae adlais o'r su dieithr pell yn y caneuon adawodd ar ei ol.

Ganwyd Robert Owen ger yr Abermaw, Mawrth 30, 1858; bu farw ger Harrow, Victoria, yn Awstralia, Hydref 23, 1885; ac y mae lled y ddaear rhyngddo a'r fan y clywodd gyntaf swn y môr.

O fewn ergyd carreg i'r brif-ffordd sy'n rhedeg o'r Abermaw trwy Ddyffryn Ardudwy, rhwng capel y Parsel ac eglwys Llanaber, saif ffermdy bychan o'r enw Tai Croesion. Amgylchynir y ty, adeilad digon cadarn, gan goed talgryfion. Gwyneba y môr mawr llydan, ac y mae yn ddigon agosato i unrhyw un a wrandawa glywed swn "gwendon yn dilyn gwendon" ac yn marw ar y traeth. Yno y ganwyd Robert Owen, mab Gruffydd a Margaret Owen. Brodor o Benllyn oedd Gruffydd Owen; ganesid ef yn y Ty Llwyd, Cwmtirmynach, ger y Bala. Pan yn llanc ieuanc hawddgar, a'i harddwch corfforol yn ddihareb, symudodd gyda theulu o'i gymdogaeth i'r Ty Mawr, Talsarnau. Fel ei deulu, gŵr cariadus