Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cymhwynasgar oedd, yn ddifyr iawn ei gwmni, gyda gair ffraeth caredig yn barod bob amser, ac yn hoff iawn o gân. Bu farw Chwef, 26, 187s, yn naw a deugain oed, wedi ei siomi yn ei hoff obaith.

Fel ei gŵr, yr oedd Margaret Owen yn hynod am ei charedigrwydd a'i lletygarwch siriol; y nodwedd a'i gwahaniaethai eddiwrtho ef oedd ei phenderfyniad meddwl. Merch Gwern Einion, ger Llanbedr, oedd. Credai mewn gwaith; a gweithiodd yn rhy galed ei hun i fagu ei phlant. Ni bu iddi ddiddanwch ar ol marw ei gwr; ac aeth ar ei ol y seithfed o Fai yn y flwyddyn wedyn, yn saith a deugain oed.

Pan oedd Robert Owen yn bedair oed, symudodd y teulu i fyw i'r Abermaw, ac yr oedd erbyn hynny frawd bychan tew o'r enw Owen, deuflwydd oed. Ty ar ochr y graig oedd y ty newydd, o'r enw Pen y Bryn. Gŵyr pawb fel mae'r Abermaw wedi ei adeiladu ar wyneb craig, ac fel y medr y trigolion weled y llongau ar y môr dros simddeuau eu gilydd. Symudasai Gruffydd Owen, gyda'i wraig a'i ddau blentyn bach, i fod yn ben badwr ar afon Mawddach; yr oedd hynny cyn amser y ffordd haiarn a'r bont, er fod y ffordd a'r bont wedieu dechreu. Collodd y cychwr ei alwedigaeth, a chollodd y rhan fwyaf o'i arian wrth ofer ymgyfreithio a'r cwmni oedd wedi dinistrio ffon ei fara.

Yr oedd bryd Gruffydd Owen ar ffarmio. Cymerodd Lwyn Gloddaeth, ffermdy yng Nghwm Sylfaen, ychydig dros filltir o'r Abermaw. Symudodd yno ar galan gauaf 1867, gyda'i deulu a gwas a morwyn. Lle caregog a diffrwyth