Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/18

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oedd ar y goreu, llawn creigiau a drain a grug; ond yr oedd yr amaethwr wedi rhoddi ei galon ar ei wneyd yn gartref cysurus gweddill ei oes, Llusgodd dunelli lawer o galch i fyny i'r fferm, gorchuddiodd wyneb yr holl feusydd â chalch a phridd, ymrôdd i godi cloddiau a thorri ffosydd, a gwnaeth i wair ac yd dyfu mewn caeau oedd yn wyllt ers blynyddoedd. Ac nid llai oedd ymdrech Margaret Owen yn y ty.

Tra'r oedd eu rhieni'n gweithio yn galed, chwareuai'r ddau fachgen yn hapus. Gadawsant chware cwch a llong; ac aethant i gadw ffarm. Yr oedd gan bob un ei dyddyn ar y bryn wrth dalcen y ty, gyda chregin duon yn wartheg a chregin cocos yn ddefaid; ac yno y byddent yn ddedwydd ddigon, hwyr a bore, yn prynnu a gwerthu fel pe buasent y ddau amaethwr mwyaf yn yr holl dir. Toc daeth chwaer fach hefyd, iddynt wylio'r amser y doi i sylwi ac i wenu arnynt.

Ciliodd dyddordeb Robert Owen oddiwrth ei deganau, yr oedd wedi cael blas ar ddarllen a meddwl. Yn yr ysgol Sul ac yn yr ysgol ddyddiol yroedd ei gyflymder a'i weithgarwch yn tynnu sylw pawb. Yr oedd ysgol Frytanaidd wedi ei hagor dan y capel yn yr Abermaw yn 1868 neu 1869, a gwelodd yr athraw ddefnydd is-athraw yn Robert Owen. Aeth y bachgen adre'n llawen y noson honno, a'i frawd llai yn rhedeg ar ei oli fyny'r llethr serth, i roddi cais yr athraw o flaen ei dad. Ond, er ei alar, ni fynnai ei dad wrando arno. Wylodd drwy'r nos, tynherodd calon ei íam; ac yn y bore dywedwyd fod ei dad yn foddlon. Ac yna dechreuodd ymdrech y bachgen