Tudalen:Gwaith Robert Owen (Bardd y Môr).pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

i godi yng ngrym ei athrylith i allu a defnyddioldeb,—yr ymdrech bruddaf, ond mwyaf dyddorol, feallai, yn hanes efrydwyr tlodion Cymru.

Beth yw'r rheswm fod ambell i fachgen mewn ysgol, heb gynorthwy cyfoeth na theulu na dysg, yn unig ymysg ei gyd-ysgolheigion chwareugar fel un yn babell i ryw ysbryd mwy pur a choeth na'u hysbrydoedd hwy? Y balchder urddasol, y boneddigeiddrwydd naturiol, yr uchelgais ysol, y gonestrwydd anhyblyg,—o ba le y daethant i'r galon fach sy'n curo dan gob sy'n dangos gofal a thlodi mam? Tra'r oedd holl fryd ei gymdeithion ar chwareuon a melusion, pa beth oedd yn ei ddenu ef i unigedd ochrau'r Llawllech, i ymhyfrydu ym mhrydferthwch natur, ac i gyfuno'r mwynhad hwnnw gyda chariad, oedd yn ymagor yn ddistaw fel rhosyn, at eneth fach lygat-ddu oedd yn chware gyda'r lleill?

Lle tawel yw'r Abermaw. Cysgod sydd yno, a lle i ymfwynhau; nid lle i fagu anturiaethwyr. Nid llawer o wŷr enwog gododd yno, os neb. Os symuda meddwl yno o gwbl, symuda,—dan ddylanwad ymbleserwyr a llyfrgell y ffordd haiarn,—yn esmwyth ddiog yn ol. Ac yno yr oedd bachgen unig, a rhywbeth wedi deffro pob cynneddf iddo. Yr oedd pawb yn ei adnabod, ond yr oedd yn ddieithr yn eu mysg. Gwrandawai'n astud ar y pregethau, mwynhai'r seiadau, nid oedd ball ar ei lafur at yr ysgol Sul, carai'r plant yn angerddol, hanner addolai ei dad a'i fam, ac yr oedd prydferthwch yr eneth honno yn rhoddi ei wedd ddedwydd ar fywyd cudd ei feddwl. Ond eto yr oedd yn unig; yn anesboniadwy hyd yn oed i'r rhai a'i carai. Cerddai lwybrau dieithr iddynt,—min a môr a glan tragwyddoldeb o hyd.